Datganiad Preifatrwydd i Aelodau

Eich Data Aelodaeth – pam a beth sydd angen arnom

Mae arnom angen rai o’ch manylion personol, e.e. eich enw a’ch cyfeiriad ebost, er mwyn inni fedru roi gwybod ichi am ddigwyddiadau fel  ymarferion, taliadau aelodaeth ac achlysuron cymdeithasol.

Pa ddata rydym yn casglu wrth aelodau?

Rydym yn casglu rhywfaint o’r data data canlynol.. (Nid ydym yn casglu yr holl ddata am bob aelod –  rydym yn ei gasglu dim ond oes angen).

·         Enw

·         Cyfeiriad ebost

·         Cyfeiriad post

·         Rhif Ffôn

·         Manylion cyswllt brys

·         Lluniau/lluniau fideo

·         Taliadau tanysgrifio

 

·         Datganiadau cymorth rhodd

·         Manylion banc

·         Gwybodaeth feddygol

·         Oed/ dyddiad geni

·         Rhyw

·         Gwirio cofnodion troseddol

Rydym yn gwirio pa ddata sydd gennym bob yn ail flwyddyn ac yn ei dynnu os nad oes angen ei gadw.. Os gadewch y côr, fe sicrhawn  na fyddwn yn defnyddio ac /neu yn dileu unrhyw data nad oes angen ei gadw (e.e. ar gyfer adroddiadau ariannol).

Ar gyfer beth rydym ni’n ei ddefnyddio?

Gall unrhyw ran o’r wybodaeth a restrir uchod fod yn angen i reoli eich haelodaeth o Gôr y Gleision, a threfnu ein digwyddiadau. Ni fyddwn byth yn defnyddio y data yma at unrhyw beth heb eich caniatâd i’r defnyddiad ychwanegol.

Os rhoddwch eich caniatad, bydd Côr y Gleision yn ychwanegu eich ebost i’n rhestr  cyfathrebu marchnata / hyrwyddo. Byddwn o hyd yn cynnwys opsiynau i optio allan o bob cyfathrebiad o’r fath. Gallwch dynnu eich caniatad yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu a’r Swyddog Diogelwch Data .

Ydyn ni’n rhannu eich data gydag eraill?

  • Ni fyddwn byth yn rhoi eich data i drydydd parti i’w ddefnyddio gan y parti hwnnw ac eithrio at ddibenion gofynion Tracio ac Olrhain Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud â Covid-19.
  • Byddwn ar adegau yn defynddio gwasanaethau trydydd parti, (e.e. Google Drive) i storio neu i brosesu eich data. Byddwn o hyd yn ceisio sicrhau eu bod ag enw da ac yn ddiogel., a bod eich data yn cael ei gadw mor ddiogel a phosib.
  • Gallwch edrych ar bolisi diogelu data Google Drive er mwyn eich sircrwydd personol.
  • Os bydd unrhyw aelod arall o’r côr yn gofyn am eich manylion cyswllt, byddwn dim ond yn eu rhannu gyda’ch caniatad.

Beth gallwch ofyn i ni wneud?

Gallwch ofyn unrhyw bryd am gael golwg ar, diweddaru neu gywiro unrhyw ddata rydym yn cadw amdanoch. Hefyd gallwch ofyn nni ddarfod defnyddio eich data neu ei ddileu.  Os ydych am wneud cais am un o’r rhain, cysylltwch a’n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymateb o fewn mis.

Mae gennyf gwestiwn – gyda pwy dylen i siarad?

Y person gorau i siarad gyda yw ein Swyddog Diogelu Data –  Mr Dan Allsobrook dataprotectioncorygleision@gmail.com