Canllawiau Covid-19

Côr y Gleision – Canllawiau i Fynychu Ymarferion

ASESIAD RISG TACHWEDD 2020

ASESIAD RISG: YSGOL LLANEDEYRN – GORFFENNAF 2021

Noder mai cyfrifoldeb pob aelod i wneud yn siŵr nad yw eu presenoldeb yn eu rhoi nhw, nac unrhyw un arall mewn unrhyw berygl a bod rhaid iddynt ystyried unrhyw bryderon iechyd unigol a allai fod ganddynt a allai eu gwneud hwythau’n fwy agored i Covid-19.

Rhaid i bob aelod sy’n mynychu ymarfer ebostio ebost y côr cyn yr ymarfer erbyn 12yp ar ddiwrnod yr ymarfer fan bellaf.

Ni chaniateir mynediad i’r ymarfer oni bai eich bod wedi llofnodi’r ffurflen ar gyfer yr ymarfer hwnnw.

Rhaid i bob aelod o’r côr ddarllen yr Asesiad Risg ar wefan y côr a chaniatáu eu bod wedi ei ddarllen, ei ddeall ac yn cytuno i gydymffurfio ag ef drwy lenwi a llofnodi’r holiadur cyn yr ymarfer.

A fyddai’n bosib i chi gyrraedd yr ymarfer 15 munud cyn dechrau’r ymarfer i gael eich gosod mewn lle ac yn barod i fynd mewn i’r ‘stand’ yn brydlon.

Gellir gwisgo gorchudd wyneb / neu feisor clir yn ystod yr ymarfer os dymunwch wneud hynny ond gofynnwn i chi wisgo gorchudd wyneb wrth fynd mewn i’r stadiwm ac wrth gael eich gosod cyn mynd mewn i’r ‘stand’.

Bydd system un ffordd i fynd mewn i’r stadiwm a’i gadael.

Bydd pedwar aelod o’r pwyllgor yn gweithredu fel stiwardiaid yn y stadiwm. Dilynwch eu cyfarwyddiadau a’u cyngor os gwelwch yn dda.

Rhaid i bob aelod gadw pellter o 2m tra’n mynychu ymarferion a 3m tra’n canu. Ni chaniateir canu wyneb yn wyneb a ni chaniateir i aelodau gymysgu yn ystod yr ymarfer.

Bydd cynllun eistedd yn cael ei ddosbarthu cyn pob ymarfer. Bydd rhesi o seddi ar gau bydd seddi ym mhob rhes a ddefnyddir ar gau er mwyn i ganiatáu ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.

Bydd conau wedi eu marcio mewn lle ar gyfer pob adran. Ffurfiwch res tu ôl i gôn eich adran os gwelwch yn dda yn nhrefn y cynllun eistedd cyn mynd mewn i’r ‘stand’.

Rhaid i aelodau ddod a ‘wipes’ i olchi eu seddi ac unrhyw arwyneb arall y maent wedi ei gyffwrdd cyn ac ar ôl yr ymarfer.

Rhaid bob aelod ddod a hylif diheintio eu hunain (y’n cynnwys o leiaf 70% o alcohol) a’i ddefnyddio yn rheolaidd drwy gydol yr ymarfer.

Rhaid i bob aelod gael eu copïau eu hunain. Ni chaniateir rhannu copïau na ffeiliau. Bydd rhestr o gerddoriaeth ar gyfer yr ymarfer yn cael ei ddosbarthu cyn bob ymarfer.

Gellir tynnu lluniau o’r sawl sy’n mynychu’r ymarferion at ddibenion Olrhain a Phrofi.

Bydd egwyl o 20 munud rhwng y ddau ymarfer bob nos er mwyn i’r côr cyntaf ymadael a’r ail gôr i gymryd ei le. Gofynnir i bob aelod olchi eu seddi ac unrhyw arwyneb y gallent fod wedi cyffwrdd cyn gadael y stadiwm cyn gynted ac mor dawel â phosib gan gadw pellter o 2m.

Bydd cyfleusterau tŷ bach ar gael i bob aelod, un ar y tro o fewn yr adeilad ar unrhyw adeg. Os ydych yn aros y tu allan gydag aelodau eraill, rhaid cadw pellter o 2m.

Rhaid i bob aelod deithio i’r safle yn unigol neu mewn grwpiau o’r un cartref â chi ac osgoi rhannu unrhyw liffts diangen.

Rhaid gwisgo gorchudd wyneb os defnyddir trafnidiaeth gyhoeddus yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru

Bydd parcio ar gael ar y safle

Cynghorir i chi olchi eich dwylo yn syth ar ôl i chi gyrraedd adref yn dilyn yr ymarfer.

Os caiff yr ymarfer i ganslo am unrhyw reswm megid tywydd gwael neu newid yng nghanllawiau’r Llywodraeth, cewch eich hysbysu dros e bost ac ar dudalen Facebook y côr erbyn 5yp fan bellach ar ddiwrnod yr ymarfer. Cofiwch i siecio eich ebyst yn rheolaidd.