Wel, daethom i ben a mynd a dod nôl o Ganada, er bod ambell un dal draw yng Nghanada /America. Heb os, gwnaeth y jet-lag fwrw sawl un ohonom i wahanol raddau ond ar y cyfan cawsom ni daith arbennig. Diolch byth fod Toronto a Kinsgton wedi dod dros y tywydd garw a buom yn ffodus iawn i gael tywydd digon da ar gyfer ymweld â rai o leoliadau’r ddinas gan gynnwys y CN Tower a hefyd i ymweld â fferm sydd yn cynhyrchu ‘maple suryp’ . Fferm oedd hi yn wir ac nid canolfan ymwelwyr fel roedd rhai ohonom ni yn disgwyl. Roedd Niagra yn wirioneddol syfrdanol a llwyddodd criw bach ohonom ganu cytgan Gwlad, Gwlad yn y twnel yn edrych allan dan y dŵr.
Roedd ein perfformiad cyntaf yn y Selwyn Outreach Centre yn Peterborough, Ontario ar y nos Lun, yn cefnogi eu cyngerdd i lansio’r achos da ‘The Abbeyfield House Society of Lakefield’. Yno cwrddom â Dewi Jones, (ewythr i Eryl Jones, un o’n tenoriaid), Dewi yw Llywydd y prosiect. Yn rhannu’r llwyfan gyda ni‘r noson honno roedd teulu talentog iawn, Rhythm and Grace; chwech o blant gyda’u rhieni yn canu, dawnsio a chwarae nifer o offerynnau. Roedd hefyd yna dri phlentyn ifancach adre fydd yn perfformio gyda’r teulu cyn bo hir. Cawsom groeso cynnes a noson gofiadwy yn cwrdd â llawer o bobl â gwreiddiau Cymreig. Cawsom y pleser o gwrdd Mary Smaith , Maer Tref Selwyn a derbyn wrthi Dystysgrif o werthfawrogiad.
Erbyn dydd Mercher roeddem yn teimlo bach mwy effro ar gyfer ein peforfformiad yn Egwlys Beacan yn Beaverton, Ontario lle cawsom eto Dystysgrif o werthfawrogiad gan John Grant, Maer Tref Brock, dywedodd ef “We’re all Welsh tonight”. Derbynniodd Delyth plac i’n croesawu oddiwrth Terry O’Neil o glwb rygbi Brock a chyflwynodd Delyth grys y Gleison wedi’i arwyddo gan y tim fel anrheg. Roedd elw y cyngerdd yn mynd tuag at y banc bwyd lleol. Yn gynnharach ar ddydd Mercher buom yn ffodus i gael ein cyfarch gan Andy Letham, Maer y Ddinas Kawartha Lakes dros ginio yn St Dave’s Diner ar Highway 35. Mae cwrdd a tri maer mewn wthnos yn dipyn o gamp!
Roedd Gwyl Gymreig Ontario yn llwyddianus iawn, er bod Bws B wedi cael ei oedi ar y ffordd. Ar y ffordd i’r gwesty bu damwain achosodd ddifrod i ffenstr yn y bws, ond doedd neb ar y bws diolch byth, a dwy awr yn ddiweddarach cyrrhaeddod y bws arall i gludo ein cantorion i Kingston. Ar Fws A, cafodd Claudio, ein gyrrwr Eidaledd, bleser mawr ein clywed yn canu O Sole Mio a anthem yr Eidal, ac mae wedi rhoi neges hyfryd ar Trydar ers hynny.
Yn y brif berfformiadau cyflwynon ni anrheg o lun y Côr wedi ei fframio oedd yn cynnwys teitl bob darn wnaethom ni berfformio tra yng Nghanada, a derbynniom anrheg o amryw fathodynau-pin i aelodau’r Côr ar y ffordd.
Buom yn ffodus iawn i gael croeso ‘Canadian’ cynnes iawn gan bawb a hefyd wedi cael cyfle i wneud atgofion hyfryd a llawer o ffrindie newydd ar y ffordd. Dilynnodd Dewi Jones ni yr holl ffordd lan i Kingston a gwnaeth ddod i’n swper olaf ble cyflwynwyd wobryau’r Daith. I enwi on ychydig: Meurig am Y Siwtcês aeth i Frankfurt, i Mike Bryant (gŵr Anne Derbyshire) aeth Gwobr i‘r Cefnogwyr am werthu yr holl lyfrau rysait, a mi aeth Gwobr yr Ymwybyddwyr i Bryn Teribl a Rhys Gwirion (Llinos and Trefor).
Ar y cyfan roedd y Daith yn un bythgoiadwy a phleserus iawn, a mae’n wir i ddweud ei fod yn brofiad pwysig arall yn hanes Côr y Gleision. Diolch o galon i bawb a wiethiodd mor galed i drefnu’r trip ac i’r rhai sydd wedi’n cefnogi ar y ffordd. Pwy a ŵyr o ble daw y gwahoddiad nesa ac eraill sydd o’n blaen?
Delyth Jones, Cadeirydd