Nos Wener ddiwethaf oedd un o nosweithiau hwyl ore Côr y Gleision! Gymaint o dalent a llawer o uchafbwyntiau. Syniad Sarita Marshal oedd y noson “Cwin Carioci” ein côr. Cafodd y noson ei gynnal yn y Liberal Club ar Cathays Terrace; lleoliad perffaith gyda llwyfan, digon o le i eistedd a bar oedd yn gwerthu diodydd rhad. Cyfrannodd pawb at y buffet gyda gwledd o quiches, pizzas, sausage rolls, cacennau a digon o bethau eraill.
Yn nhraddodiad gorau Carioci, cyflwynodd y gwirfoddolwyr dewr yn ein plith ein dewisiadau o ganeuon i Sarita o flaen llaw i berfformio, ac yna nol i’r bar i frolio ein dewrder. Doedd dim angen i ni boeni gan ein bod ymhlith ffrindiau ac roedd yn lot o hwyl. Erbyn diwedd y nos roedd bron pob un ohonom wedi mentro i’r llwyfan ac roedd pawb yn wych, dyma ychydig o uchafbwyntiau:
Norma yn canu “When I’m 64” a ddilynwyd gan bob un ohonom yn canu Penblwydd Hapus iddi gan ei bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 64 ar y diwrnod hwnnw; Harriet yn canu “Poision” ac yn gorfod bod ychydig yn ddyfeisgar pan ddiffoddwyd wifi y Carioci; yr ystafell yn mynd yn dawel tra roedd Meilyr yn canu “Stars” o Les Miserables, Lucy yn canu “Bridge Over Troubled Water” ac ymunodd pawb i mewn wrth feddwl am y rhai a gollwyd yn Grenfell Tower.
Roed uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Sarita a Frank yn canu “Island in the Stream” tra cynigiodd Lucy, Anne a Mel fersiwn amgen o ddawnsio llinell; Ann Williams yn canu “Stand by Your Man” a Wyn Williams yn canu “Can’t Help Falling in Love” Roedd Harriet yn ei dagrau wrth iddo ganu.
Roedd hefyd rhywbeth gwahanol: cân bert o Bortiwgal “Meu Fado” a berfformiwyd gan Delyth, ffrind Gwenno Dafydd (gobeithio bydd hi’n ymuno â’r côr a “Du Hast” gan Miranda Morton, hollol wallgof a gwych.
Canodd Julie Donnelly berfformiad gwych o “Angie Baby”; Mary a Dave yn canu deuawd o’r gân “You’re so Vain” a Gwenno Dafydd yn canu “All that Jazz”. Dyna lais! A phwy fedrau anghofio perfformiad Melanie o “I’ve Got a Brand New Pair of Roller Skates”?
Canodd Steve Cross o’r bas ddwy gan hyfryd gan Frank Sinatra a chanodd John Smith a Jon Haberfield ganeuon gwych hefyd.
Uchafbwynt arall oedd Vicky “the voice” yn canu “I will always love you” a Kath Edwards yn canu un o ganeuon gorau’r Carpenters “Close to you”. Perfformiodd Anne Derbyshire “The Tide is High” gan Blondie a Lynne Cronin yn canu “Downtown” a ffrind o’r côr Beccy yn perfformio “Summertime” .
I gloi: y finale, Cath “Cazz” Green yn sylweddoli ei fod yn cymryd “6 gin, peint o gwrw a chwmni da” i’w pherswadio i fentro i berfformio “Paradise” gan Dashboard Light gyda Norma gyda’r ddwy yn penderfynu actio’r gân tra’n ei chanu. Roedd yn ddoniol iawn, y diwedd perffaith i noson dda!
Roedd y noson yn llawn a dim digon o amser. O’n i eisiau sôn oherwydd roedd roeddent yn ddigon dewr i fentro i’r llwyfan i ganu a wnaeth y noson yn arbennig iawn. Llwyddodd y noson i godi £365 ar gyfer ein taith i Ganada flwyddyn nesa.
Da iawn i bawb. Noson wych a chôr hyfryd i fod yn rhan ohoni.