Hwn oedd ymdrech arall i godi ceiniog new ddwy i gronfa’r côr drwy werthi eiddo diangen pobl eraill.
Roedd yn ddiwrnod o Atgofion Unigryw sef :–
Gwirfoddolwyr brwdfrydyg o’r côr yn amharu ar Gyfarfod Gweddi Dydd Sadwrn yr Eglwys, drwy geisio o leiaf dair gwaih, gadael dillad, boteli a bric a brac yn yr adeilad anghywir !.
Gwynebau trist Frank a Dai wrth sylweddoli nad oedd angen yr allwedd cawsant i fynd mewn i’m tŷ i wedi’r cwbl. Roedd y bagiau a’r bocsys o ddillad a.y.b. eisioes wedi’u cludo i’r neuadd. Ond o leiaf mae’n henwau da yn ddiogel!
Lloyd yn ennill yr un tun o Chickpeas dro ar ôl tro ar y stondin Boteli a Thuniau!
Llinos a Trefor yn darganfod potel oedd yn hanner gwag are eu stondin! Tybed ai hon oedd potel Max Boyce “that once held bitter ale”?
Alan yn ceisio perswadio Rachel i brynu’r wisg roedd hi eisioes wedi ei rhoi i’r gwerthiant. O leia mae e’n gwybod beth mae Rachel yn hoffi gwisgo!
Y pryder a’r anobaith wrth weld mwy o wirfoddolwyr na phrynwyr yn y Neuadd. Roedd y stondinau bric a brac ,a dillad yn dal i edrych mor llawn ag erioed. Roedd hyd yn oed y teisennau yn araf ddiflannu . A fyddai’n ddydd Ffwl Ebrill go iawn ar ôl yr holl waith o wneud posteri, casglu rhoddion, gosod y byrddai a’r gwerthu brwdfrydig?
Ar ben hyn i gyd, y foment pan sylweddolom ein bod wedi methu darganfod “au-pair” Swedeg i Tudor. Yr olwg ddigalonnus ar ei wyneb yn gadael y Neuadd yn cydio’n dyn yn ei ddwy rwyf ac yn anelu am Stockholm .
Ond diflannodd y pryder a’r anobaith pan gyfrifodd ein Trysorydd, Eiddwen yr arian – elw o £803! Trodd y gofid yn teimlad o ryddhad ac hapusrwydd o’r eithaf
Yn olaf ac holl bwysig oedd y cyfeillgarwch rhwng aelodau’r côr a’u parodrwydd i helpu a geithio mor galed i wneud y gwerthiant mor llwyddiannus. Dangosodd y diwrnod cymaint yw’r anrhydedd o fod yn aelod o gôr mor unigryw a Chôr y Gleision.