Wrth i ni ddod at ddiwedd Cathedral Road a throi i’r chwith tuag at ganol dinas Caerdydd yn hytrach na throi i’r dde i’r gorllewin – y ffriodd mwyaf traddodiadol tuag at y gorllewin – daeth yn amlwg fydd y daith yn un diddorol. Yn amlwg, penderfynodd y gyrrwr i yrru tuag at Ffordd y Gogledd i’r M4 – ond pam defnyddio’r ffordd fwyaf synhwyrol pan fod cyfle i ni fwynhau golygfeydd yr Eglwys Newydd ar y ffordd?
Roed mwy o hwyl i ddod wrth i ni gyrraedd Caerfyrddin pan drodd y gyrrwr i’r dde i gyfeiriad y gogledd ddwyrain tuag at Pencader. Dechreuon ni feddwl fod y gyrrwr wedi cael y neges yn anghywir a’i fod yn mynd â ni nol i Lanfihangel-ar-arth – ‘o leiaf bydd cyfle i brofi’r cwrw lleol unwaith eto’ ond na, ar hyd y ffordd gan basio Llanfihangel-ar-arth tuag at Synod Inn. Roedd y bws yn mynd i gyfeiriad hollol wahanol i Tŷ-Rhos. Mae lle arall o’r enw ‘Rhos’ ar Ynys Môn yn ôl Jon Kiff ‘ falle bydd gobaith i ni gyrraedd yno cyn hanner nos . . !
O’r diwedd, dyma ni’n cyrraedd Tŷ-Rhos, o’r gogledd!, wedi blino ac angen defnyddio’r cyfleusterau ‘looked for toilets all around’ Ond sawl tŷ-bach oedd yno ? – roeddem mewn lleoliad bach wedi’r cyfan wedi ein hamgylchynu gan gaeau a defaid – tra ffurfiodd y menywod giw trefnus, aeth y dynion i lawr y ffordd wledig. Beth yn y byd fydd ymateb teithiwr diniwed wrth weld rhes o ddynion mewn siwtiau du yn sefyll mewn llinell ar ochor y ffordd wrth y gwrych?

Felly mewn a ni nawr i’r capel am ymarfer byr – a dreuliwyd yn gweithio allan sut i ffitio 70 aelod o’r côr mewn i leoliad lle doedd dim lle i droi ‘Cosy here isn’t it’ – wrth i ni brofi sain y côr yn y capel wrth floeddio ‘Blaenwern’ , ond tybed a fyddai’n syniad gadael lle i’r gynulleidfa?
Yn ffodus i ni, dyma nhw’n dechrau cyrraedd o . . . Wel Duw a Ŵyr! O ble . .. Dim ond tri tŷ oedd i’w weld yn agos.
Mae’r gyngerdd i weld yn mynd yn dda. Y chwarter cyntaf yn llawn emynau ac arias yn cynnwys Ave Maria Rich. Mae e i weld yn ddigon bodlon gyda’r entry mewn i ‘Mater Dei’ wrth nodio’n ffafriol – a’i dyma’r tro cyntaf i ni gal hwn yn iawn? I gloi’r hanner cyntaf, O Fab y Dyn, yn hytrach na’r Tangnefeddwyr. Fel sydd wedi ei nodi yn y rhaglen wrth i’r côr ymateb mewn panic yn chwilio drwy’i ffeiliau am gopïau, er i Rich roi rhybudd o flaen llaw!!!
I ddilyn, caneuon hyfryd gan yr unawdwyr – fy hoff gân i’n benodol oedd Dim ond Ti, sef addasiad Gymraeg o’r clasur ‘Yazoo’ ‘Only You’ a chyflwyniad i’r her o fyw gyda Parkinson’s – sef elusen ddewisedig y digwyddiad.
Nawr am yr ail hanner sydd ychydig mwy diddorol – gydag aelodau ddim yn dod mewn ar ambell i entry ac ychydig o gliciau coll yn Hen Ferchetan a chyfansoddi diddorol yn dod o adran y bas yn ystod yr ‘ooos’ yn O Gymru. Er gwaetha pob dim, daeth y gyngerdd i ben gyda fersiwn bywiog o’r Tangnefeddwyr ac Anfonaf Angel emosiynol iawn gydag ychydig o ddagrau yn dod o’r gynulleidfa – gyda chôr syfrdanol, o’n i’n meddwl y byddai’r to yn codi i’r Angylion gael edrych i mewn!
Nawr dyma ddod i uchafbwynt y trip, te capel enwog Tŷ-Rhos! A ni chafodd neb eu siomi. Roedd merched y plwyf wedi rhagori unwaith yn rhagor. Ond a oeddent wedi darparu digon o ‘feringues’ a ‘cream horns’? Roedden nhw i gyd ar un bwrdd gydag aelodau’r côr yn heidio tuag atyn nhw . . Ond ni phoener, roedd mwy na digon o fwyd i lenwi boliau pawb gyda Jon yn heglu o un bwrdd i’r llall yn olygfa gwerth ei weld…

Wedyn nol am adre – heibio i fetropolis enwog Crymych (wel mae’n gwbl gymharol ) Mae Alan yn penderfynu herio aelodau’r bas yng nghefn y bws am fersiwn symudol o ‘Pointless’ a chyn pen dim mae Jon yn dechrau sialens ‘Guess that Tune’ gyda’r bas a ymunwyd gan y ddwy Vicky ynghyd â Cathy a Ffion. Yn fuan iawn mae gweddill y bws yn ‘mwynhau’ perfformiad diddorol o’r ‘A Team’ mewn harmoni pedair rhan. Doedd neb yn gallu dyfalu fy fersiwn i o ‘Virginian’ yn amlwg roedd aelodau’r côr yn rhy ifanc i gofio clasuron teledu cowbois y 60au – neu falle doedd e ddim ddigon cerddorol i’w ddyfalu – does bosib! Ar y llaw arall fe lwyddodd i bawb ymdopi â fersiwn Dai o ‘The Lone Ranger’ heblaw am Steff (neu Ceri efallai) oedd a’i ben yn ôl a’i geg ar agor. Dw i’n hoffi meddwl ei fod wedi ei swyno gan yr holl beth . . .
Naethon ni jest redeg allan o syniadau erbyn diwedd, neu falle ein bod ni gyd wedi blino yn dilyn y ‘post tea sugar crash’ neu jest wedi cael digon!
O’r diwedd dyma gyrraedd nôl i’r Mochyn Du am 00:30! A daeth yn amser i’r côr blinedig fynd adre i’w gwlâu – roedd gwaith yn galw i rai’r bore weedy…. Naethon ni glywed yn dilyn noson y gyngerdd for y gyngerdd wedi codi mwy na £1600 i Parkinsons – da iawn i bawb a roll on Eisteddfod…
Gan Gwilym.